Stori Edith tells the story of Edith Schwalb, a young Jewish girl sent to live in a safe house after the Nazi invasion of France. An entire village, including its mayor and citizenry, heroically conspired to conceal the presence of hundreds of Jewish children who lived in the safe house. A Welsh adaptation of Hiding Edith. -- Welsh Books Council
"synopsis" may belong to another edition of this title.
Review:
Anodd dirnad ffeithiau moel yr Holocost yn llawn: chwe miliwn a mwy o Iddewon wediu herlid, eu crynhoi i wersylloedd, au lladd gan y Natsaid. Mae hi gymaint yn haws i ni geisio uniaethu r hyn a ddigwyddodd i un teulu o Iddewon yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd. Dyna a geir yn Stori Edith, hanes Edith Schwalb ai theulu a ffodd o Fienna ar l ir Natsiaid oresgyn Awstria. Dilynwn eu hynt au helynt o 1938 i fis Mehefin 1944. Edith yw canolbwynt yr hanes a thrwy gyfrwng naratif sensitif Kathy Kacer, cawn gipolwg ar ei hofnau ai phryderon, ei gobeithion, ai hanobaith hefyd ar brydiau, yn ystod y cyfnod hwn. Sylweddolwn nad yw pawb yn erbyn yr Iddewon, wrth i Edith ai brawd gael lloches mewn ysgol i blant Iddewig yn nhref Moissac yn Ffrainc. Nid ffrwyth dychymyg yr awdur ond yn hytrach hanes person go iawn yw Stori Edith. Maen llyfr cyffrous a dirdynnol hefyd, syn gyrru rhywun i ddarllen er mwyn gwybod beth ddigwyddodd yn y pen draw. Llwyddodd Eigra Lewis Roberts i lunio addasiad llyfn a rhwydd ei ddarllen ac maer gyfrol yn cyd-fynd yn dda Cs Hana, addasiad arall oi heiddo. Gydar penodau byrion ar diwyg agored, braf, byddai Stori Edith yn addas i ddarllenwyr annibynnol o 10 i 13 oed ac yn arbennig o dda hefyd fel llyfr iw ddarllen i rai o 9 i 11 oed. Maer ffotograffau a atgynhyrchir or cyfnod yn gyffredinol ar rhai syn uniongyrchol berthnasol ir hanes yn ychwanegu at naws ac effaith y gyfrol. Yn sicr, mae Stori Edith yn gyfraniad pwysig iawn o ran sicrhau na chaiff yr Holocost fyth moi anghofio nai ailadrodd. Elin Meek Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
"About this title" may belong to another edition of this title.
- PublisherGomer Press
- Publication date2008
- ISBN 10 1843238543
- ISBN 13 9781843238546
- BindingPaperback
- Number of pages136
-
Rating